Croeso i Ysgol Tudweiliog

Croeso i chwi i dudalennau gwefan ysgol Tudweiliog. Daw’r disgyblion atom yn bennaf o bentrefi Tudweiliog a Llangwnnadl a’r ardal o amgylch. Mae’n ysgol wledig â natur naturiol Gymreig iddi, ble rydym yn parchu ein hanes a’n diwylliant.

Mae yna 3 o athrawon a 3 o gymorthyddion yn gweithio yn yr ysgol ynghyd â 3 o staff ategol. Mae’r tîm yn frwdfrydig ac yn gweithio’n galed i godi afonau a gwella’r ysgol yn barhaus. Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol diddorol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r urdd i fyd chwaraeon.

Ein nod yw creu ysgol hapus ble mae pawb, yn blant ac oedolion, yn gwneud eu gorau bob amser, yn frwdfrydig, yn gofalu am ei gilydd ac yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle a phrofiad i ddysgu ac i gyfoethogi eu bywyd.